Bechaduriaid o bob enw

Bechaduriaid o bob enw,
  Tan y nefoedd fawr i gyd,
Y mae Barnwr byw a meirw
  'N d'od ar frys i farnu'r byd;
Bach a mawr, ar yr awr,
A godant oll o lwch y llawr.

Etifeddion hedd yn gyntaf
  Gwyd ar ddelw Duw ei hun,
Hwy gippir i'r ffurfafen uched,
  I gyfarfod Mab y dyn;
Mewn newydd wedd ant mewn hedd
I'r hyfrydol nefol wledd.

Gwelir myrdd o ryfeddodau
  Ar ddyfodiad Iesu Grist,
Ni bydd un o'r gwaredigion
  Yn y bore hwnnw'n drist;
Galar mwy, poen na chlwy,
Byth ni ddaw i'w blino hwy.

Dyma'r dydd y cān y caethion,
  Ne's dadseinio'r nefoedd fawr,
Am ddyfodiad y Priod-Fab,
  Wrth gyfarfod uwch y llawr;
Rhif y gwlith, yn eu plith,
Molaf fy Iachawdwr byth.
Morgan Rhys 1716-79

[Mesur: 878767]

gwelir: Gwelir myrdd o ryfeddodau

Sinners of every name,
  All under great heaven,
The Judge of the living and the dead
  Is coming swiftly to judge the world;
Small and great, at the hour,
Shall all rise from the dust of the earth.

The heirs of grace first
  Shall rise in the image of God himself,
They shall be snatched to the firmament above,
  To meet the Son of man;
In a new form they shall go in peace
To the delightful heavenly feast.

A myriad wonders are to be seen
  At the coming of Jesus Christ,
Not one of the delivered ones
  That morning shall be sad;
Neither lamenting, pain nor wound,
Shall ever again come to grieve them.

This is the day the captives shall sing,
  Until the great heavens resound,
At the coming of the Bridegroom,
  While meeting above the earth;
Numerous as the dew, in their midst,
I shall praise my Salvation forever.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~